DATGANIAD

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn Blackpool

DYDDIAD

17 Tachwedd 2022

GAN

Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog

 

 

 

Cynhaliwyd 38ain cyfarfod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ar 10/11 Tachwedd gan Lywodraeth y DU yn Blackpool. Ymunais â’r cyfarfod o bell.

 

Cafodd rhaglen yr Uwchgynhadledd ei hagor gan Brif Weinidog y DU, a fynychodd ddigwyddiadau ddydd Iau 10 Tachwedd. Cadeiriwyd cyfarfod llawn yr Uwchgynhadledd ddydd Gwener 11 Tachwedd gan y Gwir Anrh Michael Gove AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a’r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol.

 

Roedd y cynrychiolwyr eraill a oedd yn bresennol yn cynnwys y Taoiseach, Micheál Martin TD, Prif Weinidog yr Alban, y Gwir Anrh Nicola Sturgeon ASA, Prif Weinidog Jersey, Kristina Moore, Prif Weinidog Guernsey, y Dirprwy Peter Ferbrache, Prif Weinidog Ynys Manaw, Alfred Cannan MHK, ac Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon, y Gwir Anrh Chris Heaton-Harris AS.

 

Twf ac Adfywio Cynaliadwy oedd thema’r Uwchgynhadledd hon. Canolbwyntiodd y Cyngor ar ymdrechion sydd ar y gweill ar draws yr aelod-weinyddiaethau sy’n rhan o’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig i ysgogi a chefnogi twf economaidd cynaliadwy, i ddatblygu cymunedau mwy cynhwysol, ac i fynd i’r afael â’r pwysau sydd ar dai yn benodol. Nododd y Cyngor hefyd y cyfarfod Gweinidogol diweddar o sector gwaith Cynhwysiant Cymdeithasol y Cyngor, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd.

 

At hynny, trafododd y Cyngor y datblygiadau gwleidyddol diweddaraf gan gynnwys: ymosodiad Rwsia ar Wcráin, effaith y cynnydd mewn costau byw, amcanion cyffredin o ran hinsawdd a datgarboneiddio, a’r berthynas barhaus â’r UE. Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Cyngor am Ogledd Iwerddon ac edrychwyd ymlaen at adfer y sefydliadau datganoledig. Nododd y Cyngor hefyd y byddai 2023 yn dynodi 25 mlynedd ers Cytundeb Gwener y Groglith/Belfast, ac amlinellodd bwysigrwydd cefnogi pob un o sefydliadau’r cytundeb i weithredu’n effeithiol, gan gynnwys y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig.

Wrth gyfrannu at y drafodaeth hon, amlygais nifer o feysydd y mae angen iddynt barhau ar frig rhestr blaenoriaethau’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig:

o   gweithio ochr yn ochr â chymunedau i sicrhau twf cynaliadwy, gan fuddsoddi mewn seilwaith, pobl a lleoedd, i greu’r amodau lle bydd busnesau yn buddsoddi;

o   rôl buddsoddiad uniongyrchol gan y Llywodraeth mewn strategaethau twf, mewn meysydd fel newid hinsawdd, ymchwil ac arloesi, a chefnogi egin ddiwydiannau;

 

Cyhoeddwyd Hysbysiad ar y cyd ar ôl y cyfarfod, sydd ar gael yn:

 

https://www.britishirishcouncil.org/bic/summits (Saesneg yn Unig)

 

Bydd Uwchgynhadledd nesaf y Cyngor yn cael ei chynnal gan Lywodraeth Jersey.